Nessun dorma

Nessun dorma
Giancarlo Monsalve yn chwarae rhan Calaf
Enghraifft o:gwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Rhan oTurandot Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Genreopera Edit this on Wikidata
CymeriadauY Tywysog Anhysbys (Calaf) Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiacomo Puccini Edit this on Wikidata

Mae Nessun dorma (Cymraeg: Bydd neb yn cysgu) [1] yn aria o act olaf opera Giacomo Puccini Turandot ac yn un o'r ariâu tenor opera mwyaf adnabyddus. Mae'n cael ei chanu gan Calaf, il principe ignoto (y tywysog anhysbys), sy'n syrthio mewn cariad ar yr olwg gyntaf gyda'r Dywysoges Turandot. Mae Turandot yn fenyw hynod olygus ond oer ei chalon. Rhaid i unrhyw ddyn sy'n dymuno ei phriodi ateb ei dri phos yn gyntaf; os yw'n methu, caiff ei ddienyddio. Yn yr aria, mae Calaf yn mynegi ei sicrwydd ei fod am ennill serch y dywysoges.

Er bod “Nessun dorma” wedi bod yn rhan o arlwy sylfaenol datganiadau operatig ers tro, gwnaeth Luciano Pavarotti lledaenu poblogrwydd y darn y tu hwnt i'r byd opera yn y 1990au. Gwnaeth Paverotti ei berfformio ar gyfer Cwpan y Byd 1990, gan gyfareddu cynulleidfa fyd-eang. Mae Pavarotti a Plácido Domingo wedi rhyddhau senglau o'r aria, gyda recordiad Pavarotti yn cyrraedd rhif 2 yn siartiau'r DU. Ymddangosodd hefyd ar yr albwm clasurol sydd â'r gwerthiant uchaf erioed "The Three Tenors in Concert". Mae'r Tri Thenor, Paverotti, Domingo a José Carreras wedi perfformio'r aria mewn tair Cystadleuaeth Derfynol Cwpan y Byd, ym 1994 yn Los Angeles, 1998 ym Mharis, a 2002 yn Yokohama.

  1. Puccini, Giacomo; Adami, G.; Simoni, R. (1978). "Act III, Scene I". Turandot. Opera Vocal Score Series. Milano, Italy: Ricordi. t. 291. OCLC 84595094. None shall sleep tonight!

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne