Minister of Foreign Affairs of Namibia, Member of the National Assembly of Namibia, Deputy Prime Minister of Namibia, President of the Republic of Namibia
Plaid Wleidyddol
SWAPO Party
Priod
Epaphras Denga Ndaitwah
Gwleidydd o Namibia yw Ndemupelila Netumbo Nandi-Ndaitwah (ganwyd 29 Hydref1952), sy'n is-lywydd Namibia ers mis Chwefror 2024. Daeth hi'n arlywydd-ethol Namibia ar ôl ennill yr etholiad arlywyddol ar 3 Rhagfyr 2024.[1] Cafodd y llysenw NNN[2][3] Mae hi i fod y fenyw gyntaf i ddal y swydd Arlywydd. [4]
Cafodd Netumbo Nandi ei geni yn Onamutai, De Orllewin Affrica (Namibia), [5] yn ferch i'r clerigwr Anglicanaidd Petrus Nandi a'i wraig Justina Nekoto Shaduka-Nandi . Netumbo oedd y nawfed o 13 o blant. [6] Cafodd ei addysg yn St. Mary's Mission yn Odibo.[7]