Nicandros | |
---|---|
Ganwyd | 250 CC ![]() Colophon ![]() |
Bu farw | 170 CC ![]() |
Galwedigaeth | meddyg, bardd, hanesydd, epigramwr ![]() |
Adnabyddus am | Theriaca ![]() |
Bardd a gramadegydd yn yr iaith Roeg oedd Nicandros (hefyd Nicander; Groeg: Νίκανδρος) (fl. ganol yr ail ganrif CC), yn enedigol o ddinas Colophon yn Asia Leiaf.
Offeiriad etifeddol yng ngwasanaeth y duw Apollo oedd Nicander. Roedd hefyd yn feddyg galluog. Treuliai gyfnodau hir yn ardal Aetolia ac yn ninas Pergamom.
Cyfansoddai nifer o lyfrau, gan gynnwys traethawd hir ar amaeth (erys darnau ohoni ar glawr) a llyfr ar ymrithiadau (metamorphoses) a ddefnyddiwyd fel ffynhonnell gan y bardd Lladin Ofydd ac eraill.
Mae dwy o'i gerddi ar glawr ond nid oes iddyn nhw lawer o werth llenyddol, sef y Theriaca, ar feddyginiaethau yn erbyn brath nadroedd, a'r Alexipharmaca, ar wenwynau mewn bwyd a diod a sut i'w cwffio.