![]() | |
![]() | |
Math | dinas fawr, dinas yng Nghyprus, tref wedi'i rhannu gan ffin ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 330,000 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Nicosia ![]() |
Sir | Ardal Nicosia ![]() |
Gwlad | Cyprus, Gogledd Cyprus ![]() |
Arwynebedd | 51.06 km² ![]() |
Uwch y môr | 220 metr ![]() |
Gerllaw | Pedieos ![]() |
Cyfesurynnau | 35.1725°N 33.365°E ![]() |
Cod post | 1010–1107 ![]() |
![]() | |
Nicosia (Groeg: Λευκωσία, Levkosía, Twrceg: Lefkoşa) yw prifddinas Cyprus. Saif ar afon Pedieos, ac mae'r boblogaeth tua 310,000.
Mae'r ddinas ar hyn o bryd wedi ei rhannu, gyda'r rhan ddeheuol yn perthyn i Weriniaeth Cyprus (y rhan Roegaidd o'r ynys) a'r gogledd i Weriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus. Gelwir y ffin, sy'n mynd ar draws y ddinas o'r dwyrain i'r gorllewin, "y llinell werdd", ac mae dan reolaeth y Cenhedloedd Unedig.
Ar 3 Ebrill 2008, agorwyd Stryd Ledra yng nghanol Nicosia i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers 34 mlynedd, fel croesfan rhwng y ddwy ran o'r ddinas.