Gair difrïol a hiliol a ddefnyddir i gyfeirio at bobl dduon yw nigar (Saesneg: nigger).[1] Oherwydd ei hanes, caiff ei ystyried erbyn heddiw yn derm cwbl annerbyniol i'w ddefnyddio, ac ymhlith y mwyaf annerbyniol o bob gair; fel arfer, cyfeirir at y term fel "y gair-N" (Saesneg: the N-word) er mwyn osgoi defnyddio'r gair ei hunan.[2]
Ymhlith Americanwyr Affricanaidd, mae'r gair wedi'i ail-ddefnyddio mewn rhai cyd-destunau, fel arfer ar ffurf y gair nigga. Y gair nigga yw'r gair rhegi mwyaf cyffredin a ddefnyddir mewn cerddoriaeth hip hop Americanaidd.