Nigel Dempster | |
---|---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 1941 Kolkata |
Bu farw | 12 Gorffennaf 2007 Llundain |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor |
Priod | Countess Emma de Bendern, Camilla Osborne |
Partner | Anna Wintour |
Plant | Louisa Dempster |
Newyddiadurwr ac awdur Seisnig oedd Nigel Richard Patton Dempster (1 Tachwedd 1941 – 12 Gorffennaf 2007). Roedd yn golofnydd clecs enwog ac yn un o newyddiadurwyr mwyaf dylanwadol y wasg Brydeinig yn ystod ail hanner yr 20g.[1]
O 1969 hyd 1985, Dempster oedd awdur y golofn "Grovel" yn Private Eye. Ysgrifennodd golofn glecs ddyddiol i'r Daily Mail o 1971 hyd 2003. Dempster oedd y cyntaf i gyhoeddi nifer o straeon, gan gynnwys dyweddïad y Tywysog Andrew i Sarah Ferguson.
Bu'n briod i'r Iarlles Emma Magdalen de Bendern, ac i'r Fonesig Osborne, merch Dug Leeds.