Gweriniaeth Ffederal Nigeria Jamhuriyar Tarayyar Najeriya (Hausa) | |
Arwyddair | Undod a Ffydd, Heddwch a Chynnydd |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth ffederal, gwlad |
Enwyd ar ôl | Afon Niger |
Prifddinas | Abuja |
Poblogaeth | 211,400,708 |
Sefydlwyd | 1 Hydref 1960 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU) |
Anthem | Henffych Nigeria! |
Pennaeth llywodraeth | Bola Tinubu |
Cylchfa amser | UTC+01:00, Africa/Lagos, Amser Gorllewin Affrica |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Affrica |
Gwlad | Nigeria |
Arwynebedd | 923,768 ±1 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Benin, Niger, Tsiad, Camerŵn, São Tomé a Príncipe |
Cyfesurynnau | 9°N 8°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabinet Nigeria |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Nigeria |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Nigeria |
Pennaeth y wladwriaeth | Bola Tinubu |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Nigeria |
Pennaeth y Llywodraeth | Bola Tinubu |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $440,834 million, $477,386 million |
Arian | naira |
Canran y diwaith | 8 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 5.65 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.535 |
Gwlad yng ngorllewin Affrica yw Gweriniaeth Ffederal Nigeria neu Nigeria, gyda 36 talaith. Ei phrifddinas yw Abuja. Y gwledydd cyfagos yw Benin i'r gorllewin, Tsiad a Chamerŵn i'r dwyrain, a Niger i'r gogledd ac mae Gwlff Gini (Cefnfor yr Iwerydd) yn ffin arfordirol iddi tua'r de.
Cafwyd sawl brenhiniaeth yn Nigeria dros y blynyddoedd. Ffurfiwyd y wlad bresennol i raddau helaeth gan Ymerodraeth Prydain yn y 19g a ailwampiwyd yn 'Protectoriaethau' (neu 'Ddiffynwledydd') Gogledd a De Nigeria yn 1914. Cadwyd y syniad o frenhiniaethau bychan i raddau helaeth, gyda'r Saesneg yn eu huno'n fwy na dim arall a hi, heddiw, yw iaith swyddogol y wlad. Yn dilyn ei hannibyniaeth yn 1960 (fel llawer o wledydd eraill) cafwyd rhyfel cartref gan sawl llu a ddymunai ei rheoli: rhwng 1967–1970. Ers hynny, llywodraethwyd y wlad drwy drefniant y fyddin a gan etholiadau democrataidd.
Yr etholiadau cyntaf i'w derbyn yn hollol niwtral a theg oedd etholiad 2011 pan etholwyd Goodluck Jonathan.[1] Yn etholiad cyffredinol y wlad ym Mawrth 2015, trechwyd Jonathan gan Muhammadu Buhari, gyda mwyafrif o ddim ond dwy filiwn o bleidleisiau. Derbynir yn gyffredinol i'r etholiad gael ei gweinyddu'n deg a niwtral.[2][3][4][5]
Yn 2014 economi Nigeria oedd y cryfaf yn Affrica, gan oddiweddu De Affrica, a thyfu i fod yn werth $500 biliwn, a chodi i fod y 21fed economi mwya'r byd.[6][7] Ar ben hyn, mae'r gyfradd dyled-GDP yn isel iawn: 11% yn unig.[8] Erbyn 2050 credir y bydd Nigeria ymhlith 20 economi mwya'r byd. y rheswm pennaf dros y llwyddiant hwn yw tanwydd ffosil. Mae hyn wedi rhoi pwer iddi fel gwlad a dywed Banc y Byd ei bod yn farchnad sy'n tyfu.[9]
Mae Nigeria'n aelod o MINT, sef grwp o wledydd a chaiff ei rhestru fel un o'r "Next Eleven", gyda gwledydd y byd yn rhagweld y bydd ei heconomi'n tyfu i fod yn un o'r mwya'n y byd. Mae Nigeria'n un o Wledydd y Gymanwlad, yr Undeb Affricanaidd, OPEC a'r Cenhedloedd Unedig.