Math | Taleithiau Affganistan |
---|---|
Prifddinas | Zaranj |
Poblogaeth | 149,000 |
Cylchfa amser | UTC+04:30 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Dari, Pashto, Balochi |
Daearyddiaeth | |
Sir | Affganistan |
Gwlad | Affganistan |
Arwynebedd | 41,356 km² |
Uwch y môr | 610 metr |
Yn ffinio gyda | Helmand |
Cyfesurynnau | 31°N 62.5°E |
AF-NIM | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | llywodraethwr, Governor of Nimruz |
Mae Nimruz neu Nimroz (Balochi/Pashto: نیمروز) yn un o 34 talaith Affganistan. Fe'i lleolir yn ne-orllewin Affganistan ar y ffin ag Iran a Pacistan. Mae gan Nimruz arwynebedd tir o tua 41,000 km² a phoblogaeth o tua 149,000 (amcangyfriad, 2002). Nimroz yw'r dalaith leiaf poblog yn y wlad gan fod cyfran mawr o'r tir yn anial neu led-anial. Mae'r mwyafrif yn bobl Pashtoon, gyda lleiafrif o bobl Balochi. Pashto yw'r brif iaith gyda Balochi a Dari yn cael eu siarad hefyd. Zaranj yw prifddinas y dalaith a'r unig drigfa fawr.
Mae Afon Helmand yn llifo o dalaith Helmand i Nimruz lle mae'n troi i'r gorllewin ac yna i'r gogledd-orllewin i ymgolli yn llyn corsiog Halmun Helmand, ar y ffin ag Iran.