Bas Nitrogen | Ribonucleosid | Deoxyribonucleosid |
---|---|---|
Adenin |
Adenosin A |
Deoxiadenosin dA |
Gwanin |
Gwanosin G |
Deoxigwanosin dG |
Thymin |
5-Methyluridin m5U |
Thymidin dT |
Wracil |
Wridin U |
Deoxiwridin dU |
Cytosin |
Cytidin C |
Deoxicytidin dC |
Dosbarth o folecylau cemeg organig a biocemeg yw'r niwcleotidau. Fe'i enwir ar ôl cnewyllyn celloedd (nucleus), oherwydd presenoldeb polymerau ohonynt yn yr organnyn hwnnw ar ffurf DNA ac RNA (yr asidau niwclëig). Dim ond niwcleotidau sydd yn macro-molecylau'r asidau niwclëig, ond hefid ceir niwcleotidau yn rhan o nifer o fiocemegolion eraill, megis NAD a CoA.
Cyfansoddir pob niwleotid o dair rhan[1].
Yn unigol gelwir hwynt yn mononiwcleoditau. Oligoniwcleotidau a pholyniwcleotidau yw'r termau ar gyfer y polymerau. Gelwir y molecylau cyfatebol heb y ffosffad yn niwcleosidau.
A (mono)niwcleotidau mwyaf cyffredin yn y gell yw ATP (adenosin triffosffad) ac ADP (adenosin deuffosffad). Y rhain sydd wrth wraidd un o brif gyfundrefnau egnibiocemeg.