Gwleidyddiaeth |
---|
Safbwyntiau |
Geirfa |
Mae'r normaleiddio iaith neu normaleiddio ieithyddol yn derm sosioieithyddol am y broses bwriadus lle bydd iaith yn cael ei defnyddio (neu ei defnyddio o'r newydd) ym mhob pau ieithyddol y mae iaith arall wedi'i feddiannu. Yng nghyd-destun y Gymraeg, neu iaith leiafrifiedig arall, gwyrdroi y sefyllfa lle nad yw'r Gymraeg yn iaith 'normal' difeddwl o bob rhan o ddyweder addysg, gweithgareddau hamdden, a phob haen o gymdeithas. Defnyddiwyd y term yn wreiddiol gan ymgyrchwyr a sosioieithyddwyr yn Quebec gyda'r term aménagement linguistique; a gan bleidwyr y Gatalaneg gyda'r term: normalització lingüística a gyfieithwyd, maes o law, er mwyn bathu'r term Cymraeg.