Math | Taleithiau Sweden |
---|---|
Poblogaeth | 195,774 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sweden |
Sir | Sir Norrbotten |
Gwlad | Sweden |
Arwynebedd | 26,671 km² |
Cyfesurynnau | 66°N 23°E |
Un o daleithiau traddodiadol Sweden yw Norrbotten (Lladin: Norbothnia). Fe'i lleolir yng ngogledd y wlad ar lan y Môr Baltig. Mae'n ffinio â thaleithiau Swedaidd Västerbotten (i'r de) a Lappland (i'r gorllewin) ac a'r Ffindir i'r dwyrain. Gydag arwynebedd tir o 26,671 km², mae ganddi boblogaeth o 192,542. Mae'n rhan o swydd weinyddol Norbotten, sy'n cynnwys hefyd dalaith Lappland. Y ddinas fwyaf yw Luleå (75,500).