Cenedl Nordig a grŵp ethnig yw'r Norwyaid sydd yn frodorol i Norwy ac yn siarad yr iaith Norwyeg. Maent yn bobl Germanaidd ac yn perthyn yn agos i'r Swediaid, y Daniaid, a'r Islandwyr. Maent yn disgyn o'r hen Lychlynwyr neu Northmyn, a chawsant eu huno'n gyntaf yn Norwy yn y 10g.
Y Norwyaid ethnig yw'r bobl fwyaf niferus yn Norwy, ac maent yn rhannu'r gwlad â lleiafrifoedd hirsefydlog gan gynnwys y Sami, y Kveeni, Ffiniaid y Goedwig, Teithwyr Norwyaidd, a Roma, yn ogystal â mewnfudwyr diweddar o bob rhan o'r byd.