Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1.59 km² |
Yn ffinio gyda | North Kensington, Kensington |
Cyfesurynnau | 51.5096°N 0.2043°W |
Cod OS | TQ245805 |
Cod post | W11, W10 |
Ardal ym Mwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, Llundain Fwyaf, yw Notting Hill, sy'n agos i gornel gogledd-orllewinol Gerddi Kensington. Mae'n fyd-enwog am ei Garnifal, ac am fod yn gartref i'r farchnad stryd ar Heol Portobello.[1]
Roedd yn ardal dlawd a difreintiedig, hyd at y 1980au, ond bellach mae'n cael ei gyfrif yn ardal gefnog a ffasiynol,[2] sy'n enwog am ei dai terras enfawr, Fictorianaidd, a'i siopau a'i dai-bwyta drudfawr - yn enwedig oddeutu Westbourne Grove a Clarendon Cross. Defnyddiodd erthygl yn y Daily Telegraph yn 2004 yr ymadrodd y Notting Hill Set[3] i gyfeirio at grwp o wleidyddion Ceidwadol megis David Cameron a George Osborne a drigoodd yma'r adeg honno. Mae rhan orllewinol Notting Hill yn cynnwys ardal lle arferid gwneud brics a theils yn nechrau'r 19g, gan ddefnyddio clai'r ardal. Mae'r unig bopty sydd wedi goroesi i'w weld yn Walmer Road.[4][5] Symudodd meichiaid yma gyda'u moch, wedi iddynt gael eu gorfodi allan o ardal Marble Arch. Roedd hyn yn rhan o gynllun i "lanhau" rhannau o Lundain a alwyd yn "Potteries and Piggeries".