![]() | |
Enghraifft o: | sefydliad rhyngwladol, carfan bwyso, sefydliad rhynglywodraethol, cartel ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 14 Medi 1960 ![]() |
Yn cynnwys | Algeria, Angola, Gini Gyhydeddol, Gabon, Iran, Irac, Coweit, Libia, Nigeria, Gweriniaeth y Congo, Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Feneswela ![]() |
Pennaeth y sefydliad | President of OPEC ![]() |
Cynnyrch | petroliwm ![]() |
Pencadlys | Innere Stadt ![]() |
Enw brodorol | OPEC ![]() |
Gwladwriaeth | internationality ![]() |
Gwefan | https://www.opec.org ![]() |
![]() |
Corff rhyngwladol o gynhyrchwyr olew yw OPEC (o'r Saesneg: Organization of the Petroleum Exporting Countries neu'n Gymraeg, Cyfundrefn Gwledydd Allforio Petroliwm). Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC, sydd yn ceisio dylanwadu ar bris olew crai rhyngwladol trwy reoli faint o olew caiff ei gynhyrchu drwy'r byd.
Sefydlwyd OPEC ar 14 Medi 1960 yn Baghdad (Irac), gyda'r syniad yn dod o Feneswela. Yr aelodau gwreiddiol, heblaw Feneswela ac Irac, oedd Sawdi Arabia, Iran a Coweit. Yn ddiweddarach, daeth gwledydd eraill yn aelodau, er i rai adael wedyn: Catar (1961), Indonesia (1962-2008), Libia (1962), Emiradau Arabaidd Unedig (1967), Algeria (1969), Nigeria (1971), Ecwador (1973-1992 a dod yn aelod eto Tachwedd 2007), Gabon (1975-1994) ac Angola (2007). Mae'r pencadlys yn Fienna ers 1965.
Aelodau cyfredol y Corff (yn 2019) yw: Aljeria, Angola, Coweit, Ecwador, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Gini'r Cyhydedd, Gabon, Iran, Irac, Gweriniaeth y Congo, Libia, Nigeria, Arabia Sawdi (arweinydd de fact), a Feneswela. Mae Indonesia a Catar yn gyn-aelodau.[1] Mae'r 14 gwladwriaeth (ym Medi 2018) yn gyfrifol am 44% o gynnyrch olew y byd ac 81.5% o gronfeydd "profiedig" o olew'r byd.
Nid yw pob gwlad sy'n cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelod o OPEC; nid yw Canada, Mecsico, Norwy, yr Unol Daleithiau, Rwsia ac Oman yn aelodau.