![]() | |
Enghraifft o: | lleuad o'r blaned Wranws, lleuad arferol ![]() |
---|---|
Màs | 3.013 ±0.075 ![]() |
Dyddiad darganfod | 11 Ionawr 1787 ![]() |
Echreiddiad orbital | 0.0014 ![]() |
Radiws | 761.4 cilometr ![]() |
![]() |
Oberon yw'r fwyaf allanol o loerennau mawr Wranws:
Brenin y Tylwyth Teg yw Oberon yn y ddrama Midsummer Night's Dream gan William Shakespeare.
Cafodd y lloeren ei darganfod gan William Herschel ym 1787.
Mae Oberon ac Umbriel yn ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod Oberon 35% yn fwy. Fel lloerennau eraill Wranws, mae Oberon wedi ei chyfansoddi o 40-50% iâ dŵr a 50-60% deunydd creigiog. Mae arwyneb Umbriel yn llawn o graterau ac yn ôl pob tebyg mae wedi bod yn sefydlog ers iddi ffurfio. Mae gan Oberon fwy o graterau -a rhai mwy eu maint- nag Ariel a Thitania. Mae gan rhai ohonynt belydrau o ejecta (deunydd sy'n cael ei allfwrw pan fo gwrthrych yn taro'r arwyneb), yn debyg i'r rhai a welir ar Galisto.
Mae gwaelodion rhai o'r craterau'n dywyll, efallai wedi eu cuddio gan ddeunydd tywyll (o bosib dŵr budr) sydd wedi goferu i mewn i'r crater.
Gwelir anafau ar draws hemisffer deheuol Oberon. Mae hynny'n awgrymu gweithgarwch geolegol yn gynnar yn hanes Oberon.