![]() | |
![]() | |
Math | oblast ![]() |
---|---|
Prifddinas | Murmansk ![]() |
Poblogaeth | 656,438 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Q4138471 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Andrey Chibis ![]() |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, Ewrop/Moscfa ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol ![]() |
Sir | Rwsia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 144,902 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Oblast Arkhangelsk, Karelia, Lapland, Finnmark, Troms og Finnmark ![]() |
Cyfesurynnau | 68.03°N 34.57°E ![]() |
RU-MUR ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Murmansk Oblast Duma ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Murmansk Oblast ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrey Chibis ![]() |
![]() | |
Un o oblastau Rwsia yw Murmansk (Rwseg: Му́рманская о́бласть, Murmanskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Murmansk. Poblogaeth: 795,409 (Cyfrifiad 2010).
Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol, yn bennaf ar Benrhyn Kola, ac mae'n rhan o ranbarth diwylliannol Lapland sy'n cynnwys pedair gwlad. Mae'n gorwedd bron yn gyfan gwbl i'r gogledd o Gylch yr Arctig. Mae Oblast Murmansk yn ffinio gyda Karelia, swydd Finnmark yn Norwy a Thalaith Lapland yn y Ffindir. Mae ganddo arfordir ar lan Môr Barents a'r Môr Gwyn. Mae Swydd Norrbotten yn Sweden yn agos hefyd (300 km).
Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth yr oblast yn fryniog, gan godi i'w phwynt uchaf ym Mynyddoedd Khibiny. Yn y gogledd ceir tundra, gyda taiga yn y de. Er gwaethaf ei leoliad gogleddol, mae'r hinsawdd yn llai oer na'r disgwyl oherwydd effaith Llif y Gwlff.
Sefydlwyd Oblast Murmansk ar Fai 28, 1938. Mae'n ardal o bwys strategol i Rwsia; mae gan Llynges Ogleddol Rwsia ei phencadlys yn Severomorsk, 25 km i'r gogledd o Murmansk.