![]() | |
Enghraifft o: | math o endid cemegol ![]() |
---|---|
Math | nitrogen oxide ![]() |
Màs | 44.001 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | N₂o ![]() |
Clefydau i'w trin | Trafferth anadlu, cnawdnychiad, camddefnyddio sylweddau ![]() |
Rhan o | nitrous-oxide reductase activity, nitric oxide reductase activity ![]() |
Yn cynnwys | ocsigen ![]() |
![]() |
Mae ocsid nitraidd sy’n cael ei alw’n aml yn nwy chwerthin, yn gyfansoddyn cemegol, yn ocsid nitrogen.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw N₂O. Ar dymheredd yr ystafell, mae'n nwy di-fflamadwy di-liw, gydag arogl a blas metelig. Ar dymheredd uchel, mae ocsid nitraidd yn ocsidydd pwerus sy'n debyg i ocsigen moleciwlaidd.
Mae gan ocsid nitraidd ddefnyddiau meddygol sylweddol, yn enwedig mewn llawfeddygaeth a deintyddiaeth[2], am ei effeithiau anaesthetig a lleihau poen. Mae ei enw nwy chwerthin, a bathwyd gan Humphry Davy, yn seiliedig ar yr effeithiau perlesmeiriol ceir wrth ei anadlu, eiddo sydd wedi arwain at ei ddefnydd hamddenol fel anesthetig datgysylltiol[3].