Odonata Amrediad amseryddol: | |
---|---|
Picellwr praff (Libellula depressa) | |
![]() | |
Morwyn dywyll (Calopteryx virgo) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Is-ddosbarth: | |
Uwchurdd: | Odonatoptera |
Urdd: | Odonata Fabricius, 1793 |
Is-urddau | |
Anisoptera (neu Epiprocta) - gweision y neidr |
Yr urdd o bryfed sy'n cynnwys gweision y neidr a mursennod yw Odonata. Mae'n cynnwys tua 5,900 o rywogaethau.[1] Mae ganddynt ddau bâr o adenydd mawr, coesau pigog, teimlyddion byr a llygaid cyfansawdd mawr.[2][3] Mae'r larfâu'n byw mewn dwr lle maent yn bwydo ar infertebratau gan fwyaf.[3] Mae'r oedolion yn hela pryfed wrth hedfan.[2]