![]() | |
Math | ogof, solutional cave, sitio paleolítico ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Soloneshensky District ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 670 ±1000000000 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.397581°N 84.676206°E ![]() |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Altai ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | safle treftadaeth ddiwylliannol ffederal yn Rwsia, Tentative World Heritage Site ![]() |
Manylion | |
Lleolir Ogof Denisova (Rwseg: Денисова пещера, hefyd Ayu-Tash) yng nghadwyn Bashelaksky ym Mynyddoedd Altai yn rhanbarth Crai Altai, Siberia, Rwsia. Mae'r ogof o ddiddordeb paleoarchaeolegol a phaleontolegol mawr. Darganfuwyd darnau esgyrn o'r hominin Denisova, y cyfeirir ati weithiau fel y "ddynes X" (oherwydd disgyniad ar ochr y fam y DNA mitochondrial), yn yr ogof, ynghyd ag artiffactau sy'n dyddio o tua 40,000 mlynedd yn ôl. Darganfuwyd olion Neanderthaliaid yn yr ogof yn ogystal â homo sapiens cynnar; ill dau'n byw yn yr un cyfnod.[1] Canfuwyd dau ddant aelodau gwahanol o'r un boblogaeth ac yn ddiweddar canfuwyd dant arall a oedd yn cynnwys DNA, a olygai ei bod yn bosibl dyddio'r dant.[2][3]
Lleolir yr ogof ger pentref bychan Chorny Anui (Rwseg: Чёрный Ануй) ym Mynyddoedd Altai ger y ffin rhwng Crai Altai a Gweriniaeth Altai, ar lan Afon Anui tua 150 km i'r de o ddinas Barnaul. Ffurfwyd yr ogof o galchfaen Silwraidd ac mae'n cynnwys llawr gyda arwynebedd o 270 metr sgwar. Ceir siambr ganolog sy'n mesur 9 x 11 metr gyda siambrau ymylol hefyd.
Mae sedimentau'r ogof yn llawn o weddilion anifeiliaid, yn cynnwys rhai sydd wedi darfod. Cafwyd hyd i weddillion 27 rhywogaeth o anifeiliad mawr, yn cynnwys udfil a llewod ogof, a 39 rhywogaeth o famaliaid llai, yn ogystal â gweddillion ymlusgiaid, a 50 rhywogaeth o adar.
|publisher=
(help)CS1 maint: extra punctuation (link)