Oklahoma! | |
---|---|
Poster y ffilm | |
Cyfarwyddwyd gan | Fred Zinnemann |
Cynhyrchwyd gan | Arthur Hornblow Jr. |
Awdur (on) | Sonya Levien William Ludwig |
Seiliwyd ar | Oklahoma! gan Lynn Riggs Oscar Hammerstein II |
Yn serennu | Gordon MacRae Shirley Jones Gloria Grahame Gene Nelson Charlotte Greenwood Rod Steiger Eddie Albert James Whitmore |
Cerddoriaeth gan | Richard Rodgers Oscar Hammerstein II |
Sinematograffi | Robert Surtees Floyd Crosby |
Golygwyd gan | George Boemler Gene Ruggiero |
Dosbarthwyd gan | Magna Theatre Corporation (70mm) RKO Radio Pictures (35mm) |
Rhyddhawyd gan |
|
Hyd y ffilm (amser) | 145 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyfalaf | $6.8 miliwn |
Gwerthiant tocynnau | $7.1 miliwn (amcangyfrif UD/ Canada)[2] |
Mae Oklahoma! yn ffilm gerdd Americanaidd a gyhoeddwyd ym 1955 yn seiliedig ar sioe gerdd 1943 o'r un enw gan Richard Rodgers ac Oscar Hammerstein II, gyda Gordon MacRae, Shirley Jones (yn ei ymddangosiad ffilm cyntaf), Rod Steiger, Charlotte Greenwood, Gloria Grahame, Gene Nelson, James Whitmore, ac Eddie Albert. Y cynhyrchiad oedd yr unig ffilm gerdd a gyfarwyddwyd gan Fred Zinnemann.[3]
Wedi'i lleoli yn nhiriogaeth Oklahoma, mae'n adrodd stori merched y fferm, Laurey Williams (Jones), a'i charwriaeth gyda dau ddarpar gymar sy'n cystadlu am ei serch, y cowboi Curly McLain (McRae) a'r gwas ffarm sinistr a brawychus Jud Fry (Steiger). Mae rhamant eilaidd yn y stori am y berthynas rhwng y cowboi Will Parker (Nelson) a'i chariad, y fflyrt Ado Annie (Grahame) [4]
Thema cefndir yw dyhead y diriogaeth ar gyfer dod yn Dalaith yn Unol Daleithiau America a'r gwrthdaro lleol rhwng gŵyr gwartheg a ffermwyr.
Derbyniodd y ffilm adolygiad gwych gan The New York Times, a chafodd ei ethol yn "Dewis Beirniaid y New York Times".[5] Yn 2007, cafodd Oklahoma! ei ddewis ar gyfer ei gadw yng Nghofrestrfa Ffilm Genedlaethol yr Unol Daleithiau gan Lyfrgell y Gyngres fel un "arwyddocaol yn ddiwylliannol, yn hanesyddol neu'n esthetig"