Oliverio Girondo | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Awst 1891 ![]() Buenos Aires ![]() |
Bu farw | 24 Ionawr 1967 ![]() Buenos Aires ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, bardd ![]() |
Arddull | barddoniaeth ![]() |
Priod | Norah Lange ![]() |
llofnod | |
![]() |
Bardd Sbaeneg ac arlunydd o'r Ariannin oedd Oliverio Girondo (17 Awst 1891 – 24 Ionawr 1967) sy'n nodedig am ddelweddaeth yr avant-garde a'r symbolaeth yn ei gerddi sy'n nodweddiadol o fudiad Ultraísmo.
Ganwyd i deulu cefnog yn Buenos Aires, yr Ariannin. Teithiodd ar draws Ewrop yn ystod ei ieuenctid. Cyfranodd at gylchgronau llenyddol Archentaidd gan gynnwys Proa a Martín Fierro. Girondo oedd un o sefydlwyr y cwmni cyhoeddi Editorial Sudamericana yn 1939. Bu farw yn Buenos Aires yn 75 oed.[1]