Delwedd:Gray490.png, Internal organs.svg, Equisetum braunii (strobilus), Portland, Oregon.jpg | |
Enghraifft o: | dosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | endid anatomegol arbennig, strwythur anatomegol |
Rhan o | organeb byw, system o organnau |
Yn cynnwys | meinwe |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn bioleg ac anatomeg, mae'r gair organ (lluosog: organau) yn golygu grwp o feinwe sy'n gwneud gwaith arbennig neu sawl gwaith arbennig o fewn y corff. Daw'r gair allan o'r gair Lladin organum, sef "erfyn, twlsyn", a hwnnw'n air sydd wedi tarddu o'r hen air Groegaidd όργανον - organon, sef "organ, erfyn, twlsyn, offeryn").
Fel arfer ceir dau fath o feinwe: y math canolog (neu'r prif fath) a meinwe ymylol (neu achlysurol). Y math cyntaf ydy'r un sy'n unigryw ar gyfer math arbennig o organ. Er enghraifft, meinwe canolog y galon yw'r meiocardiwm, a'r meinwe ymylol ydy'r nerfau a'r celloedd gwaed a'r meinwe cysylltiol. Mae organau sy'n cysylltu â'i gilydd o ran gwaith yn cydweithio i greu system organau cyfan. Fe'i ceir ym mhob uwch-organeb biolegol, ac nid yn unig mewn anifail; maent i'w cael hefyd mewn planhigion.