Amryw fathau o organebau | |
Math | endid anatomegol ffisegol, gwrthrych ffisegol |
---|---|
Rhan o | poblogaeth, grŵp o bethau byw, Biota |
Yn cynnwys | cell, system o organnau, cydadran neu elfen fiolegol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn bioleg, organeb byw yw pethau byw megis anifeiliaid, meicro-organebau, planhigion neu ffwng. Beth sy'n gyffredin rhwng y rhain i gyd? Y ffaith eu bont yn ymateb i stimwli, atgenhedlu, tyfu a pharhad. Gall yr organeb fod yn un gell (y ffurf mwyaf elfennol ar fywyd) neu'n amlgellog, megis bod dynol, gyda biliynau o gelloedd wedi'u grwpio'n organau a meinweoedd.
Mewn bioleg, organeb (o'r Hen Roeg ὄργανον) yw unrhyw system fyw, organig sy'n gweithredu fel endid unigol.[1] Mae pob organeb yn cynnwys celloedd.[1] Dosberthir organebau yn ôl tacsonomeg, yn grwpiau fel anifeiliaid amlgellog, planhigion a ffyngau; neu micro-organebau ungellog megis protistiau, bacteria, ac archaea.[2] Mae pob math o organebau'n gallu atgenhedlu, tyfu a datblygu, cynnal a chadw (gw. Homeostasis), a rhywfaint o ymateb i ysgogiadau. Mae chwilod, môr-lewys, pedwartroedion (tetrapodau), madarch, a phlanhigion fasgwlaidd yn enghreifftiau o organebau amlgellog sydd a meinweoedd ac organau arbenigol gwahanol iawn.
Felly, gellir rhannu'r organebau mewn sawl ffordd; un o'r rhain yw:
Dull arall o'u grwpio yw:
Un diffiniad eithaf derbyniol o organeb yw ei fod yn gasgliad o foleciwlau sydd â nodweddion 'byw'. Mae rhai gwyddonwyr yn mynnu na ddylai feirws gael ei ystyried yn organeb, nac ychwaith unrhyw ffurfiau mae dyn yn eu creu yn y dyfodol. Mae'r firws yn ddibynol ar ei organeb letyol i atgenhedlu, felly nad ydynt yn ffitio'r geiriad arferol y dylent fedru atgenhedlu eu hunain, heb gymorth.
Gall organeb ungellog fod naill ai'n brocaryot neu'n ewcaryotau. Cynrychiolir procaryotau gan ddau barth ar wahân – bacteria ac archaea. Nodweddir organebau ewcaryotig gan bresenoldeb cnewyllyn cell sy'n rhwym i bilen ac maent yn cynnwys adrannau ychwanegol wedi'u rhwymo â philen o'r enw organynnau (neu organelles; fel mitocondria mewn anifeiliaid a phlanhigion a phlasidau mewn planhigion ac algâu, i gyd yn cael eu hystyried yn gyffredinol i fod yn deillio o facteria endosymbiotig).[3] Mae ffyngau, anifeiliaid a phlanhigion yn enghreifftiau o deyrnasoedd o organebau o fewn yr ewcaryotau.
Mae amcangyfrifon ar nifer rhywogaethau presennol ar y Ddaear yn amrywio o 2 filiwn i 1 triliwn,[4] tipyn o ystod! Ac mae dros 1.7 miliwn ohonynt wedi'u cofnodi.[5] Amcangyfrifir bod mwy na 99% o'r holl rywogaethau, sy'n cyfateb i dros bum biliwn o rywogaethau, [6] a fu fyw erioed wedi eu difodi.[7][8]
Yn 2016, nodwyd set o 355 o enynnau o'r cyd-hynafiad cyffredinol diwethaf (last universal common ancestor; LUCA) o bob organeb.[9] [10]