![]() | |
Enghraifft o: | inter-city rail, train service, luxury train, international train, passenger train service ![]() |
---|---|
Rhan o | rail transport in Lombardy ![]() |
Dechreuwyd | 5 Mehefin 1883 ![]() |
Daeth i ben | 14 Rhagfyr 2009 ![]() |
Gweithredwr | Compagnie Internationale des Wagons-Lits ![]() |
Gwladwriaeth | Twrci ![]() |
![]() |
Gwasanaeth trên hirbell a grëwyd yn 1883 gan Compagnie Internationale des Wagons-Lits (CIWL) oedd yr Orient Express.
Newidiodd llwybr a cherbydau'r Orient Express lawer gwaith. Roedd nifer o lwybrau yn y defnyddio enw'r Orient Express yr un pryd, gyda man amrywiadau. Er mai gwasanaeth rheilffordd cyffredin oedd yr Orient Express yn wreiddiol, daeth yr enw i gyfleu moethusrwydd a chwilfrydedd. Enwau'r ddwy ddinas sy'n cael eu gysylltu'n bennaf â'r Orient Express yw Paris a Chaergystennin (Istanbul),[1][2] sef dau ben y gwasanaeth gwreiddiol.[3] Roedd yr Orient Express yn fodel o deithio moethus a chyfforddus mewn dyddiau pan oedd teithio yn dal i fod yn arw a pheryglus.
Teithiodd yr Orient Express i Istanbul am y tro olaf yn 1977. Teithiai ei olynydd fel gwasanaeth tros-nos o Paris i Bwcarést, i Budapest yn unig o 1991 ymlaen, a dim pellach na Fienna ar ôl 2001. Gwnaeth y daith am y tro olaf o Baris ddydd Gwener, Mehefin 8, 2007.[4][5] Wedi hyn, cafodd y llwybr, a oedd yn dal i gael ei alw'n "Orient Express", ei fyrhau fel ei fod yn dechrau o Strasbwrg yn lle,[6] gan gyd-fynd â chyflwyno'r LGV Est a oedd yn cynnig amseroedd teithio llawer byrrach o Baris i Strasbwrg. Roedd y gwasanaeth newydd yn gadael Strasbwrg am 22:20 bob dydd, yn fuan ar ôl i'r TGV gyrraedd o Baris, a'i chysylltu i'r gwasanaeth tros-nos o Amsterdam i Fienna yn Karlsruhe.
Daeth gwasanaeth yr Orient Express i ben ar 14 Rhagfyr 2009 a diflannodd y llwybr o amserlenni trenau Ewropeaidd.[7] Yn 2019, roedd trên y Venice-Simplon Orient Express, menter breifat gan Belmond yn defnyddio cerbydau gwreiddiol CIWL o'r 1920au a 1930au, yn parhau i redeg o Lundain i Fenis ac i gyrchfannau eraill yn Ewrop, gan gynnwys y llwybr gwreiddiol o Baris i Istanbul.[8]