Oscar Wilde | |
---|---|
Ffugenw | С.3.3., Sebastian Melmoth |
Ganwyd | Oscar Fingal O’Flahertie Wills Wilde 16 Hydref 1854 Dulyn |
Bu farw | 30 Tachwedd 1900 o meningitis Paris |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig, Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, dramodydd, awdur storiau byrion, newyddiadurwr, awdur plant, nofelydd, llenor, awdur, rhyddieithwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol, awdur ysgrifau, chwedleuwr, libretydd |
Adnabyddus am | The Importance of Being Earnest, The Picture of Dorian Gray, Ysbryd Canterville, The Soul of Man under Socialism, The Ballad of Reading Gaol |
Arddull | comedi, llenyddiaeth Gothig, barddoniaeth, drama ffuglen, tragedy, stori dylwyth teg, barddoniaeth naratif, stori fer, traethawd |
Mudiad | Esthetiaeth, Decadent movement |
Tad | William Wilde |
Mam | Jane Wilde |
Priod | Constance Lloyd |
Partner | Lord Alfred Douglas |
Plant | Vyvyan Holland, Cyril Holland |
Gwobr/au | Newdigate Prize |
Gwefan | http://www.cmgww.com/historic/wilde/ |
llofnod | |
Bardd, nofelydd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd Oscar Fingal O'Flahertie Wills Wilde (16 Hydref 1854 – 30 Tachwedd 1900). Roedd yn enwog am ei ffraethineb a datblygodd i fod yn un o ddramodwyr mwyaf llwyddiannus diwedd y cyfnod Fictorianaidd yn Llundain ac yn un o ser mwyaf ei gyfnod. Mae nifer o'i ddramâu yn parhau i gael eu perfformio, yn arbennig The Importance of Being Earnest. Fe'i cafwyd yn euog o "anweddusdra difrifol" gyda dynion eraill ac fe'i dedfrydwyd i ddwy flynedd o lafur caled. Pan ryddhawyd Wilde o'r carchar, hwyliodd liw nos i Dieppe ar y fferi. Ni ddychwelodd i Brydain.
Cafodd ei eni yn 21 Westland Row, Dulyn, Iwerddon ac astudiodd yng Ngholeg Y Drindod, Dulyn ac yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen.
Bu farw Wilde ym Mharis, Ffrainc a chladdwyd ef ym mynwent Pere-Lachaise yno.