![]() | |
Enghraifft o: | dosbarth o glefyd ![]() |
---|---|
Math | clefyd adlunio asgwrn, clefyd ![]() |
Mae Osteosclerosis yn salwch sydd wedi'i nodweddu gan esgyrn yn caledu mewn modd anarferol a chynnydd yn nwysedd yr esgyrn. Gall effeithio ar y gyfran ferol a/neu cortecs yr esgyrn yn bennaf. Mae radiograffau syml yn ddull gwerthfawr o adnabod salwch osteosclerotig.[1] Gall ymddangos mewn rhannau penodol o'r corff neu yn gyffredinol. Mae osteosclerosis lleol yn gallu cael ei achosi gan glefyd Legg–Calvé–Perthes, clefyd cell-cryman a osteoarthritis ymhlith eraill. Gall osteosclerosis gael ei ddosbarthu yn unol a'r ffactor achosol yn ôl achosion caffaeledig a'r etifeddol.