Owain Gwynedd | |
---|---|
Ganwyd | c. 1100, 1100 Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | 28 Tachwedd 1170 Teyrnas Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | brenin |
Tad | Gruffudd ap Cynan |
Mam | Angharad ferch Owain |
Priod | Cristin ferch Gronw, Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn |
Plant | Hywel ab Owain Gwynedd, Angharad ferch Owain Gwynedd, Dafydd ab Owain Gwynedd, Rhodri ab Owain Gwynedd, Madog ab Owain Gwynedd, Maelgwn ab Owain Gwynedd, Cynan ab Owain Gwynedd, Iefan ab Owain Gwynedd, Rhun ab Owain Gwynedd, Iorwerth Drwyndwn, Gwenllian ferch Owain Gwynedd |
Llinach | Llys Aberffraw |
Owain ap Gruffudd ap Cynan, a elwid yn Owain Gwynedd, (1100 – 28 Tachwedd 1170) oedd tywysog Gwynedd o 1137 tan ei farwolaeth ac hefyd Tywysog Cymru.
Gelwid ef yn Owain Gwynedd i'w wahaniaethu oddi wrth Owain ap Gruffudd arall a deyrnasai yn yr un cyfnod, Owain Cyfeiliog. Gwelodd ei deyrnasiad adfywiad mawr yng Ngwynedd a Chymru ac mae Brut y Tywysogion yn cyfeirio ato wrth yr enw Owain Fawr.