Owain Owain | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1929 ![]() Pwllheli ![]() |
Bu farw | 19 Rhagfyr 1993 ![]() Caernarfon ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwyddonydd niwclear, addysgwr, llenor, bardd ![]() |
Adnabyddus am | Y Dydd Olaf, Amryw Ddarnau ![]() |
Arddull | gwyddonias ![]() |
Plant | Robin Llwyd ab Owain ![]() |
Roedd Owain Owain (11 Rhagfyr 1929 – 19 Rhagfyr 1993)[1] yn llenor toreithiog, gwleidydd, gwyddonydd niwclear a darlithydd Cymreig ac yn sefydlydd a golygydd cyntaf Tafod y Ddraig ac un o brif sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith. Ef, yn fwy na neb arall, a 'osododd seiliau Cymdeithas gan ei chreu'n fudiad ymgyrchu effeithiol' yn ôl Dafydd Iwan yn ei gyfrol Pobl Dafydd Iwan.[2] Seiliwyd albwm Gwenno Saunders Y Dydd Olaf ar nofel ffug-wyddonol, broffwydol o'r un enw gan Owain Owain.