P. J. O'Rourke | |
---|---|
![]() P. J. O'Rourke yn 2007. | |
Ganwyd | 14 Tachwedd 1947 ![]() Toledo ![]() |
Bu farw | 15 Chwefror 2022 ![]() Sharon ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, dychanwr ![]() |
Gwefan | http://www.pjorourke.com ![]() |
Dychanwr, newyddiadurwr, ac awdur gwleidyddol o'r Unol Daleithiau oedd Patrick Jake O'Rourke (14 Tachwedd 1947 – 15 Chwefror 2022).
Yn ystod ei yrfa, bu'n brif olygydd y National Lampoon, prif gylchgrawn hiwmor yr Unol Daleithiau yn y 1970au, ac yn gyfrannwr rheolaidd i Rolling Stone. Ysgrifennodd hefyd ar gyfer llu o gyhoeddiadau eraill, gan gynnwys The Atlantic Monthly, The American Spectator, a The Weekly Standard. Cyhoeddwyd rhyw ugain o gyfrolau o'i ysgrifau, erthyglau, a chroniclau ar grwydr.
Yn ei ieuenctid bu'n rhan o wrthddiwylliant y 1960au, ac yn fuan trodd at wleidyddiaeth yr adain dde. Pwysleisiai unigolyddiaeth yn ei ysgrifau, a byddai'n cael ei ystyried yn un o ladmeryddion y tueddiad rhyddewyllysiol yn y Blaid Weriniaethol. Bu'n aelod o'r Cato Institute, melin drafod ryddewyllysiol.