Palas Hampton Court

Palas Hampton Court
Mathamgueddfa tŷ hanesyddol, palas, theatr, amgueddfa annibynnol Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Richmond upon Thames
Agoriad swyddogol1838 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1515 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4034°N 0.337499°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ1573968461 Edit this on Wikidata
Cod postKT8 9AU Edit this on Wikidata
Rheolir ganHistoric Royal Palaces Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Duduraidd, Baróc Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddbricsen Edit this on Wikidata

Palas brenhinol yn Richmond upon Thames, Llundain Fwyaf, yw Palas Hampton Court. Saif ar lannau gogleddol Afon Tafwys, 12 milltir (19 ) i'r de-orllewin o ganol Llundain.

Dechreuwyd adeiladu'r palas yn 1514 gan Thomas Wolsey, pan oedd yn brif weinidog i Harri VIII, brenin Lloegr.[1] Ym 1529, ac yntau wedi digio'r brenin, rhoddodd Wolsey y palas i Harri er mwyn adennill ei ffafr. Daeth y palas yn un o hoff breswylfeydd y brenin; yn fuan ar ôl iddo gael yr eiddo, trefnodd iddo gael ei ehangu.[2]

Yn gynnar yn y 1690au, roedd Wiliam III yn dymuno creu palas i gystadlu â Phalas Versailles yn Ffrainc. Roedd gwraig William, y Frenhines Mary, yn ymwneud â chynllunio'r gerddi. Adeiladwyd oriel ar lan y dŵr ganddi lle arddangosodd ei chasgliad o borslen.[3] Ymgymerodd â phrosiect enfawr o ailadeiladu ac ehangu yn Hampton Court, a thrwy hynny ddinistrio llawer o'r palas Tuduraidd. Lluniodd Christopher Wren gynlluniau a gafodd eu haddasu yn ystod y gwaith adeiladu. Daeth y gwaith hwn i ben ym 1694, gan adael y palas mewn dwy arddull bensaernïol wahanol, sef Tuduraidd a Baróc.[4]

Siôr II (teyrnasiad 1727–1760) oedd y brenin olaf i breswylio yn y palas.

Mae'r palas a'i erddi ar agor i'r cyhoedd, ac yn cael eu rheoli gan Historic Royal Palaces, elusen sy'n cynnal a chadw sawl eiddo nad yw'r teulu brenhinol yn byw ynddynt mwyach.

  1. Thurley, Simon (2004). Hampton Court Palace: A Social and Architectural History (yn Saesneg). Yale University Press. tt. 8 ff.
  2. Summerson, John (1969). Great Palaces (Hampton Court. pp. 12–23) (yn Saesneg). Llundain: Hamlyn Publishing Group Ltd. tt. 14–21. ISBN 0-600-01682-X.
  3. Deborah C. Fisher (2024). William and Mary: William and Mary: A History of Their Most Important Places and Events (yn Saesneg). Pen & Sword. ISBN 9781399075626.
  4. Neville Williams (1971). Royal Homes (yn Saesneg). Gwasg Lutterworth. t. 54. ISBN 0-7188-0803-7

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne