![]() | |
Math | senedd-dy ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Agoriad swyddogol | 1342 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Palas San Steffan ac Abaty Westminster gan gynnwys Eglwys Santes Marged, Westminster ![]() |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 10 ha ![]() |
Gerllaw | Afon Tafwys ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4994°N 0.1242°W ![]() |
Cod OS | TQ3026779504 ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig Seisnig, Gothig Sythlin, yr Adfywiad Gothig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Adeilad yn Llundain sy'n gartref i Senedd y Deyrnas Unedig yw Palas San Steffan. Mae'r senedd honno yn cynnwys dwy siambr – Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin: yma mae'r ddau yn cwrdd. Mae'r palas wedi'i leoli ar lan Afon Tafwys yn ardal Westminster yn Llundain. A. W. N. Pugin a Syr Charles Barry oedd penseiri yr adeilad Fictoraidd. Mae'r adeilad yn agos i swyddfeydd pwysig y llywodraeth yn Whitehall hefyd.
Ynghyd ag Abaty Westminster ac Eglwys Santes Marged, Westminster, sy'n sefyll ar yr un safle o arwyddocâd hanesyddol a symbolaidd, mae'r Palas ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1987.[1]