Math | château, palas, amgueddfa, palas brenhinol, oriel gelf |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | palas a pharc Versailles |
Sir | Versailles |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 67,000 m² |
Cyfesurynnau | 48.8047°N 2.1203°E |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth baróc Ffrengig |
Perchnogaeth | Couronne de France |
Statws treftadaeth | monument historique classé, Safle Treftadaeth y Byd |
Sefydlwydwyd gan | Louis XIII, brenin Ffrainc |
Manylion | |
Palas brenhinol mawr yng nghymuned Versailles, Île-de-France, tua 11 milltir {18 km) i'r gorllewin o Baris yw Palas Versailles (Ffrangeg: Château de Versailles).
Adeiladodd y Brenin Louis XIII gaban hela crand yn Versailles yn 1623. Ehangwyd yr adeilad hwn gan ei olynydd, Louis XIV, yn balas a aeth drwy sawl cam datblygiad o 1661 i 1715. Roedd yn hoff breswylfa i'r ddau frenin, ac yn 1682, symudodd Louis XIV ei lys a'i lywodraeth i Versailles, a daeth y palas yn brifddinas Ffrainc i bob pwrpas. Parhaodd y sefyllfa hon yn ystod teyrnasiaid Louis XV a Louis XVI. Fodd bynnag, yn nyddiau cynnar y Chwyldro Ffrengig yn 1789 dychwelodd y teulu brenhinol a'r llys i Baris. Yn ystod gweddill y chwyldro, cafodd Palas Versailles ei adael i raddau helaeth a'i wagio o'i gynnwys.
Ar ôl i Napoleon gael ei goroni'n ymerawdwr yn 1804, ystyriodd adfer y prif balas fel ei breswylfa ond roedd y gost yn ormod. Yn lle hynny defnyddiodd balas llai gerllaw, y Grand Trianon, fel preswylfa haf o 1810 i 1814. Ar ôl cwymp Napoleon ni ddefnyddiodd Louis XVIII na Siarl X Versailles fel preswylfa, er eu bod wedi gwneud rhywfaint o waith arno. Ym 1833 sefydlodd Louis Philippe I amgueddfa o hanes Ffrainc yn y palas. Ar ôl hynny defnyddiwyd y palas ar gyfer seremonïau mawreddog a digwyddiadau pwysig megis arwyddo Cytundeb Versailles yn 1919.
Mae'r palas yn eiddo i lywodraeth Ffrainc ac ers 1995 mae wedi'i reoli, o dan gyfarwyddyd Ministère de la Culture (Gweinyddiaeth Ddiwylliant Ffrainc).[1] Mae'n un o'r atyniadau twristiaeth mwyaf poblogaidd yn y byd; mae tua 15,000,000 o bobl yn ymweld â'r palas, y parc, neu'r gerddi yn Versailles bob blwyddyn.[2]
Dynodwyd y palas a'r parc sydd o'i amgylch yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979 oherwydd ei bwysigrwydd fel canolfan pŵer, celf a gwyddoniaeth yn Ffrainc yn ystod yr 17g a'r 18g.[3]