Y Palme d'Or yw'r wobr fwyaf a roddir yng Ngŵyl Ffilm Cannes ac fe'i rhoddir i gyfarwyddwr y ffilm orau yn y gystadleuaeth swyddogol.[1] Cafodd ei sefydlu ym 1955 gan y gweithgor trefnu. Rhwng 1939 a 1954, y wobr uchaf oedd y Grand Prix du Festival International du Film.[2] O 1964 tan 1974, cafodd ei newid unwaith eto am y Grand Prix du Festival.[3]