Math | camlas ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9008°N 6.0155°E ![]() |
Aber | Nederrijn ![]() |
![]() | |
Camlas, sydd i bob pwrpas yn afon, yn yr Iseldiroedd yw'r Pannerdensch Kanaal. Saif rhwng Doornenburg a Huissen yn nhalaith Gelderland, ac mae'n cysylltu afon Rhein a'r Nederrijn. Adeiladwyd y gamlas rhwng 1701 en 1709.
Gerllaw Fort Pannerden mae afon Rhein yn rhannu yn ddwy ran. Mae dwy ran o dair o'i dŵr yn llifo ar hyd afon Waal, a'r gwedill ar hyd y Pannerdensch Kanaal. Ychydig uwchben Huissen, mae rhan o'r dŵr sy'n llifo trwy'r Pannerdensch Kanaal yn llifo i'r Nederrijn a'r rhan arall i afon IJssel.