Math o bapur rhad, o ansawdd isel yw papur papur newydd.[1] Fe'i ddefnyddir i argraffu papurau newydd, comics, pamffledi, a defnyddiau argraffedig eraill a fwriedir i'w dosbarthu'n eang. Gan nad yw'n cael ei brosesu mor drylwyr â phapur arferol, mae'n sensitif iawn i olau'r haul, treigl amser a lleithder. Oherwydd ei ansawdd, nid yw'n addas i'w gadw mewn archifau, er bod rhai sefydliadau yn cadw copïau o gyhoeddiadau a argraffir ar bapur papur newydd.
Gwneir papur papur newydd o fwydion pren, yn hytrach na mwydion cemegol.[2] Cafodd ei ddyfeisio gan Charles Fenerty ym 1838.[3] Heddiw cynhyrchir y mwydion pren o gonwydd Ewrop a Gogledd America ac felly'n mae'n adnodd adnewyddadwy ac yn un o'r papurau gorau i'r amgylchedd.[4]