Yn seicoleg a rhywoleg, mae'r term paraffilia (o'r Roeg: para παρά = gerllaw yn annormal a -ffilia φιλία = cariad) yn disgrifio teulu o ffantasïau, cymhellion gwyrol, neu ymddygiadau dwys, parhaus mae unigolyn yn teimlo sy'n ymwneud â chyffro rhywiol o wrthrychau annynol, poen neu gywilydd a brofiadir gan unigolyn neu ei bartner, neu blant neu unigolion eraill sy'n anaddas fel partneriaid neu ni all cydsynio i gael rhyw. Gall baraffiliâu ymyrryd â'r gallu am weithgarwch rhywiol serchog dwyochrog.[1] Defnyddir y term paraffilia yn ogystal i gyfeirio at ymarferion rhywiol tu allan i'r prif ffrwd heb yn angenrheidiol ymhlygu camweithrediad (gweler yr adran Barnau clinigol). Hefyd, gall ddisgrifio teimladau rhywiol tuag at wrthrychau sydd fel arall yn ddi-rywiol.