Mewn geometreg Ewclidaidd, ystyrir y paralelogram yn bedrochr syml, gyda dau bâr o ochrau cyfochrog (neu 'baralel')[1]. Mae'r llinellau cyferbyn o'r un hyd ac mae'r onglau cyferbyn hefyd yn gyfartal. Bathiad o'r Groeg yw paralelogram: παραλληλ-όγραμμον, sef siâp wedi'i lunio "allan o linellau cyfochrog").
Gellir cymharu'r pararelogram gyda'r trapesoid (weithiau: trapesiwm), sy'n bedrochr gyda dim ond un pâr o linellau paralel.
Y ffurf tebyg i'r paralelogram (dau ddimensiwn), mewn tri dimensiwn yw'r paralelepiped.