Math | un o barciau cenedlaethol Cymru a Lloegr, geoparc |
---|---|
Poblogaeth | 33,485 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Torfaen, Bwrdeistref Sirol Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,344 km² |
Cyfesurynnau | 51.88°N 3.4°W |
Cod SYG | W18000001 |
Rheolir gan | Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Statws treftadaeth | Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol |
Manylion | |
Parc cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n un o dri yng Nghymru. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo, Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr Tudful. Fe'i ffurfiwyd ym 1957.
Yn Ebrill 2023, cyhoeddwyd y byddai'r awdurdod yn defnyddio ei enw Cymraeg 'Bannau Brycheiniog' yn unig o hyn ymlaen.[1]
Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.
Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeadr yn y parc, gan gynnwys Sgŵd Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori yn y parc.