Math | parc |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Hollywood |
Sir | Los Angeles |
Gwlad | UDA |
Yn ffinio gyda | Argae Hollywood |
Cyfesurynnau | 34.1333°N 118.3°W |
Mae Parc Griffith yn barc mawr ym mhen dwyreiniol Mynyddoedd Santa Monica, yng nghymdogaeth Los Feliz yn Los Angeles, Califfornia. Mae'r parc 4,310 acr (1,740 ha), un o'r parciau dinas fwyaf yng Ngogledd America.[1] Hwn yw'r parc dinesig ail-fwyaf yng Nghaliffornia, ar ôl i 'Mission Trails' yn San Diego.[2] Cyfeirir ato weithiau fel Parc Canolog Los Angeles, ond y mae'n llawer mwy, yn fwy gwyllt, ac yn fwy garw na'i gymar yn Ninas Efrog Newydd.[3][4][5]
Cafodd Griffith ei ddyfarnu'n euog o saethu ei wraig mewn digwyddiad ym 1903.[6] Pan gafodd ei ryddhau o'r carchar, rhoddodd ei arian i adeiladu amffitheatr, arsyllfa, planetariwm, a gwersyll merched a gwersyll bechgyn yn y parc. Fodd bynnag, cafodd ei enw da yn y ddinas ei lygru gan ei drosedd, felly ni dderbyniwyd y rhodd tan ar ôl ei farwolaeth.