![]() | |
Math | stadiwm bêl-droed, safle rygbi'r undeb ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1 Medi 1910 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4747°N 3.2°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | C.P.D. Dinas Caerdydd ![]() |
Hen faes pêl-droed yn ninas Caerdydd oedd Parc Ninian. Roedd yn eiddo i C.P.D. Dinas Caerdydd.
Adeiladwyd y stadiwm yn 1910, a chafodd ei enwi ar ôl yr Arglwydd Ninian Critchton-Stuart, mab trydydd Ardalydd Bute. Chwaraewyd nifer fawr o gemau rhyngwladol Cymru yma yn y gorffennol, a chynhaliodd y Pab Ioan Pawl II gyfarfod yma yn 1982.
Adeiladwyd stadiwm newydd ar gyfer C.P.D. Dinas Caerdydd gerllaw, sydd wedi bod yn gartref i'r clwb ers tymor 2009-2010. Chwaraewyd gêm gynghrair olaf Dinas Caerdydd ym Mharc Ninian ar 25 Ebrill 2009 yn erbyn Ipswich Town.