Mae Pareidolia (/pærɪˈdoʊliə//pærɪˈdoʊliə/parr-i-DOH-lee-ə) yn ffenomen seicolegol ble mae'r meddwl yn ymateb i stimulus, delwedd neu sain fel arfer, trwy ganfod patrwm cyfarwydd er nad yw'n bodoli mewn gwirionedd.
Enghreifftiau cyffredin yw delweddau ymddangosiadol o anifeiliaid, wynebau, neu wrthrychau mewn ffurfiannau cwmwl, y Dyn yn y Lleuad, tybiedig, Hen Wr y Lleuad, Cwningen y Lleuad, negeseuon cudd o fewn i gerddoriaeth sydd wedi'i recordio ac yn cael ei chwarae am yn ôl neu a gyflymder cynt neu arafach nag arfer, a chlywed lleisiau mewn synau annisgwyl fel sŵn tymherwr neu ffan.[1]