Mynyddfor (Eryri) a elwir hefyd yn 'Fynydd yr Eliffant', o'r gogledd.Ffotograff lloeren o mesa yn rhanbarth Cydonia o Mawrth, sy'n aml yn cael ei alw'n "Wyneb Mawrth" ac yn cael ei gyfeirio ato fel tystiolaeth o breswyliad allfydol. Mae lluniau cydraniad uchel mwy diweddar o nifer o safbwyntiau gwahanol wedi dangos bod y 'wyneb' mewn gwirionedd wedi'i ffurfio'n naturiol o garreg.Salem, darluniad gan Sydney Curnow Vosper, y diafol yn y clogyn a'r ellyll yn sipio drwy'r ffenestr yw'r enghreifftiau mwyaf amlwg o pareidolia Cymreig
Mae Pareidolia (/pærɪˈdoʊliə//pærɪˈdoʊliə/parr-i-DOH-lee-ə) yn ffenomen seicolegol ble mae'r meddwl yn ymateb i stimulus, delwedd neu sain fel arfer, trwy ganfod patrwm cyfarwydd er nad yw'n bodoli mewn gwirionedd.
Enghreifftiau cyffredin yw delweddau ymddangosiadol o anifeiliaid, wynebau, neu wrthrychau mewn ffurfiannau cwmwl, y Dyn yn y Lleuad, tybiedig, Hen Wr y Lleuad, Cwningen y Lleuad, negeseuon cudd o fewn i gerddoriaeth sydd wedi'i recordio ac yn cael ei chwarae am yn ôl neu a gyflymder cynt neu arafach nag arfer, a chlywed lleisiau mewn synau annisgwyl fel sŵn tymherwr neu ffan.[1]