Term mewn seryddiaeth yw'r parth cyfannedd sy'n cyfeirio at y parth o amgylch seren lle y byddai orbit planed yn caniatáu bywyd ar ei hwyneb[1][2]. (Neu o leiaf unrhyw fywyd y byddai'n ymdebygu i'r hyn y profwn ar y ddaear.) Y nodwedd bwysicaf yw'r amgylchiadau sy'n caniatáu dŵr hylif i fodoli ar ei hwyneb[3]. Yn agosach i'r seren, mi fyddai ei wres yn anweddu'r dŵr mewn modd y byddai'n arwain iddo ddiflannu i'r gofod. Yn bellach o'r seren ac mi fyddai holl ddŵr y blaned wedi rhewi - gan nacáu adweithiau biocemegol. Yn aml, cyfeirir at y parth yma fel y "parth Elen Penfelyn", er cof am y stori i blant o Loegr, Goldilocks and the three bears[4]. Crybwyllwyd y syniad yn ffurfiol yn gyntaf ym 1953 yn annibynnol gan Hubertus Strughold[5][6] a Harlow Shapely[7], er bod cyfeiriadau cyffredinol ato yn gynharach. Bellach mae cryn ddiddordeb mewn planedau allheulol sy'n troelli mewn parth o'r fath o amgylch sêr y tu hwnt i'r haul. Ystyrir hwynt yn gynefinoedd posibl i fywyd y tu hwnt i gysawd yr haul.
↑Hubertus, Strughold (1953). The Green and Red Planet: A Physiological Study of the Possibility of Life on Mars. University of New Mexico Press. ISBN9781258366025.
↑I J Falconer; J.G. Mena; J.J. O'Connor; T S C Peres; E F Robertson (2018). "Harlow Shapley". Prifysgol St. Andrews, Yr Alban. Cyrchwyd 6 Mai 2021.