Cynhaliwyd Pasiant Cenedlaethol Cymru yng Ngerddi Soffia rhwng 26 Gorffennaf a 7 Awst 1909. Roedd y pasiant yn adrodd hanes Cymru, ac fe'i sgriptwyd gan Arthur Owen Vaughan (Owen Rhoscomyl).
Roedd cast o 5,000 yn perfformio yn y pasiant, gan gynnwys pobl amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru.[1] Disgwyliwyd y byddai 300,000 o bobl yn dod i wylio'r pasiant, ond daeth llai na 200,000, ac fe wnaed colled o £2,054.[2]