Patricia Bredin | |
---|---|
Ganwyd | 14 Chwefror 1935 ![]() Kingston upon Hull ![]() |
Bu farw | 13 Awst 2023 ![]() Nova Scotia ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | actor, canwr, nofelydd, llenor ![]() |
Priod | Ivor Emmanuel ![]() |
Cantores yw Patricia Bredin (ganed 14 Chwefror 1935 yn Hull, Lloegr; m. 13 Awst 2023 yn Nova Scotia, Canada). Hi oedd cynrychiolydd cyntaf y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 1957. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Frankfurt, yr Almaen a daeth yn seithfed allan o ddeg cystadleuydd gwahanol. Enw ei chân oedd "All", a dyma oedd y gân gyntaf erioed i gael ei chanu yn Saesneg yn yr Gystadleuaeth Cân Eurovision. Yn ôl "The Eurovision Song Contest - The Official History" gan John Kennedy O'Connor, ei pherfformiad hi oedd y perfformiad byrraf erioed, yn para 1:52 yn unig.[1]
Priododd y canwr Ivor Emmanuel yn 1964, ond ysgarodd y ddau yn 1966.