Pegwn magnetig

Mae gan bob planed neu gorff sydd a maes magnetig (fel sydd gan y Ddaear) begynau magnetig (neu bolau magnetig[1]).[2] Mae'r ddau begwn hyn i'w canfod ar wyneb y corff hwnnw, yn union ble mae'r llinellau'r maes magnetig yn fertig. Mae cyfeiriad y maes yn ddibynol ar fagnetedd y pegynau: pa un a ydyw'n begwn gogleddol neu'n begwn deheuol ( a tharddiad y termau hyn ydyw'r Ddaear (Pegwn y Gogledd a Phegwn y De).

Mae echel fagnetig y Ddaear fwy neu lai wedi'i adlinio gyda'i echel gylchdro, sy'n golygu fod yr echelion magnetig yn eithaf agos at y pegynau daearyddol. Fodd bynnag, nid dyma'r drefn bob amser e.e. gyda phlanedau eraill; mae echel fagnetig Wranws ar ogwydd o 60°.

  1. Porth Termau Cenedlaethol Cymru; adalwyd 12 Ionawr 2016
  2. "20 Things You Didn't Know About... the North Pole". DiscoverMagazine.com. 2014-11-18. Cyrchwyd 2015-06-26.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne