Peiriant sydd yn defnyddio gwasgedd hylif i weithio yw peiriant hydrolig.
Trosglwyddir yr hylif drwy bibelli i silindrau a motorau hydrolig. Rheolir y gwrthiant yn y peirianwaith, ac felly gwasgedd yr hylif, gan falfiau. Gellir trosglwyddo swm uchel o bŵer drwy bibelli bychain, hyblyg.
Enghraifft gyffredin o beirianwaith hydrolig yw'r brêc mewn car.