Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd diffyg maethiad, other acquired skin disease, clefyd y croen, clefyd |
Symptomau | Dolur rhydd, rhithweledigaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Clefyd sy'n deillio o ddiffyg fitamin B3 (niacin) yw pelagra. Ymhlith y symptomau mae croen llidus, briwiau yn y geg, dolur rhydd a gorddryswch.[1] Fel arfer mae'r rhannau o'r croen sy'n agored i olau'r haul neu i rwbiad yn cael eu heffeithio gyntaf. Dros amser gall y croen hwnnw dywyllu, anystwytho, croenio neu waedu.
Mae dau brif fath o'r clefyd. Mae'r math cyntaf yn cael ei achosi gan fwyta bwyd nad yw'n cynnwys digon o niacin a thryptoffan. Mae'r ail math yn deillio o anallu'r corff i ddefnyddio'r niacin mewn bwydydd. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i rai afiechydon, yn ogystal ag alcoholiaeth, a nifer o feddyginiaethau fel isoniasid.
Yn hanesyddol, mae pelagra yn glefyd o dlodi sy'n gysylltiedig â diffyg maeth. Mae i'w ganfod o hyd mewn gwledydd datblygol, yn enwedig ymhlith pobl sy'n cael y rhan fwyaf o'u hegni bwyd o indrawn, yn arbennig yn Ne America wledig, gan fod indrawn yn ffynhonnell wael o niacin a thryptoffan.[2]