Cân draddodiadol a genir i longyfarch a dathlu pen-blwydd person yw Pen-blwydd hapus i ti! Yn ôl y Guinness World Records dyma'r gân Saesneg mwyaf adnabyddus ledled y byd.[1] Cenir y gân mewn nifer o ieithoedd. Honir mai dwy chwaer, dwy athrawes a sgwennodd y gân a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1893 mewn cyfrol o'r enw Song Stories for the Kindergarten, gyda geiriau "Good Morning to All" i groesawu'r disgyblion i'w dosbarth; y ddwy athrawes oedd Patty Hill a Mildred J. Hill. Mae rhai pobl yn mynnu mai'r geiriau'n unig a ysgrifennwyd ganddynt.[2] Prifathrawes mewn kindergarten yn Louisville, Kentucky oedd Patty ar y pryd[3] a phianydd a chyfansoddwraig oedd Mildred.[1] Yn 1912 yr ymddangosodd y geiriau mewn print yn gyntaf, heb unrhyw rybydd o hawlfraint arnyn nhw. Bellach, Warner Brothers bia hawlfraint y gân a chaiff ei defnyddio'n aml i ddangos mor hurt (yng ngolwg rhai) yw deddfau hawlfraint y byd.