Pen-caer

Pen-caer
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth417 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.02°N 5.01°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000462 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map
Erthygl am y gymuned yw hon. Am y cwmwd canoloesol gweler Pen Caer (cwmwd).

Cymuned yng ngogledd-orllewin Sir Benfro, Cymru, yw Pen-caer[1], weithiau Pencaer neu Pen Caer. Saif i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin o Wdig ger Abergwaun. Mae ei harwynebedd yn 3,588 hectar.

Daw enw'r gymuned o enw penrhyn Pen Caer, sy'n cynnwys Pen Strwmbl (Saesneg: Strumble Head). Nid oes unrhyw bentref mawr o fewn y gymuned, y mwyaf yw Tremarchog (St Nicholas) gyda phoblogaeth o ychydig dros 50, gydag aneddiadau gwasgaredig yn Llanwnda, Llangloffan, Trefaser a Treopert (Granston). Mae'r rhan arfordirol o'r gymuned yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn arwain trwyddi.

Ceir cromlechi neolithig yn Llanwnda a Thremarchog a dwy fryngaer o'r Oes Haearn uwchben Pwll Deri. Ceir carreg Ogham yn Eglwys Tremarchog.

Pencaer, Ynys Meicl, Ynys Onnen a'r goleudy, wrth i'r haul fynd i'w fedd

Ger Carregwastad yn 1797 y bu glaniad y Ffrancod.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]

  1. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 699
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne